Cofnodion cyfarfod y Gaeaf o’r Chweched Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig

Ystafell Seminar 1 & 2, y Pierhead, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Chwefror 2014

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

‘Goblygiadau Gwledig y Bil Cynllunio’

 

Yn bresennol:

Cadeirydd:                              Llyr Huws Gruffydd – Plaid Cymru (PC)                   

Ysgrifenyddiaeth:                  Cat Griffith-Williams – Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW)

 

Aelodau Cynulliad a staff cymorth yr Aelodau:    

Llyr Huws Gruffydd AC (PC),

Russell George AC (Ceid),

Osian Lewis, Staff Cymorth (PC),

Laura Cranmer, Staff Cymorth (Ceid),

Carl Sargeant AC (Ll), 

Paul Pavia, Staff Cymorth (Ceid)

 

Yn bresennol:                         Peter Ogden – YDCW

DrRoisin Willmott, Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru

Alex Phillips – CCC

Edward Holdaway – Partneriaeth Tirwedd Cymru

Raoul Brambral – Cyswllt Amgylchedd Cymru

Karen Whitfield  - Cyswllt Amgylchedd Cymru

Laura Cropper – RSPB   

James Byrne – Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Andrew Stumpf - Glandŵr Cymru

Dr Ruth Williams – Sefydliad Tirwedd Cymru

Richard Kirlew – Materion Gwledig yr Eglwys yng Nghymru

Siobhan Wiltshire – Llywodraeth Cymru, Is-adran Cynllunio

Chris Lindley – Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cymru

Greg Pycroft – Parciau Cenedlaethol Cymru

Malcolm I Harrison - Pub is the Hub,

Russell De’ ath, Adran Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Llywodraeth Cymru

Karen Anthony – Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Aneurin Phillips – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Elaine Davey,

Jay Kynch – Y Gymdeithas Mannau Agored

Jim Wilson – Cymdeithas Parc Bannau Brycheiniog

Helen Rice – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

 

1          Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:   Ethol Cadeirydd ac Ysgrifenyddiaeth

 

1.1              Llyr Huws Gruffydd AC; croesawodd Cadeirydd presennol y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Gwledig bawb ac agorodd y cyfarfod.

1.2              Nododd bod angen i bob Grŵp Trawsbleidiol gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol, a bod y cyfarfod hwn wedi’i gynnal at y diben hwnnw. Y weithdrefn arferol yw ethol Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Gwahoddwyd y rheini a oedd yn bresennol felly i gynnig enwebiadau ar gyfer swydd y Cadeirydd.

1.3              Enwebodd Dr Ruth Williams o Sefydliad Tirwedd Cymru Llyr Huws Gruffydd AC. Gan nad oedd rhagor o enwebiadau, cytunodd y rheini a oedd yn bresennol yn unfrydol y dylai Llyr Huws Gruffydd barhau’n Gadeirydd ar y Grŵp.

1.4              Gofynnodd Llyr hefyd am gadarnhad y dylai Cat Griffith-Williams, YDCW, barhau i ddarparu’r gwasanaeth ysgrifenyddol i’r grŵp. Cytunodd y rhai a oedd yn bresennol.

1.5              Arweiniodd Llyr y trafodaethau ar y syniadau ar gyfer blaenraglen waith y Grŵp; awgrymwyd ystyriaeth o’r Cynllun Datblygu Gwledig arfaethedig, Cynllunio Morol, gan gynnwys y cyswllt rhwng y tir a’r môr, a’r Cynllun rheoli Cyfoeth Naturiol fel pynciau posibl.  

2.         Cyflwyniad gan Carl Sargeant AC: Y Gweinidog Tai ac Adfywio

             Y Bil Cynllunio Drafft: Cynllunio Cadarnhaol

 

2.1       Agorodd y Gweinidog ei gyflwyniad drwy bwysleisio pa mor bwysig, yn ei farn ef, yw gwrando ar farn eraill ynghylch manylion y Bil Cynllunio Drafft a’i ddogfennau ategol.

2.2       Nododd y dylai Cynllunio, yn ei farn ef, sbarduno’r economi yng Nghymru a chymdeithas, ac na ddylid ei weld fel rhwystr. Dyna pam mai teitl y ddogfen ymgynghorol yw ‘Cynllunio Cadarnhaol’. Ei flaenoriaethau yw darparu tai digonol, sy’n wahanol i’r cysyniad o ‘dŷ’ yn unig.

2.3       Gofynnodd y cwestiwn: ‘Beth sy’n gwneud Awdurdod Cynllunio da, a chynllun da, a beth ddylai buddiannau system gynllunio dda i Gymru fod?’ Pwysleisiodd y ffaith y dylech ddisgwyl i’r system fod yn deg a chyson, lle bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru. Roedd yn credu y dylai systemau pwyllgor fod yn synhwyrol ac mai’r peth trist ynghylch cynllunio yw’r wleidyddiaeth sy’n aml i’w weld yn taflu materion eraill i’r cysgod. Mae felly’n ceisio creu dull teg a chyson o wneud penderfyniadau.

2.4       Nododd y Gweinidog na all ddeddfu dros newid, gan fod newid yn dibynnu ar ddiwylliant, ac felly mae’n ceisio creu proses o reoli gwaith datblygu yn hytrach na’i feistirioli.

2.5       Cydnabu’r Gweinidog y cysylltiad â Biliau amrywiol eraill a’u heffaith ar y gymuned, gan ddatgan bod swyddi a thwf yn elfennau allweddol y mae galw amdanynt, a bydd hyn, yn anochel, yn golygu newid.

2.3       Daeth Carl Sargeant a’i araith i ben drwy bwysleisio nad oes gan y Bil ffocws o ran polisi, ond ei fod yn ymwneud â strwythur a chywirdeb y prosesau sy’n sail i gynllunio. Bydd y Bil yn sicrhau pwerau galluogi i wneud hyn ledled Cymru.

3.         Cwestiynau i Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

3.1       James Byrne - Ymddiriedolaethau Natur Cymru: “Weinidog, gwnaethoch gyfeirio at gyllunio cadarnhaol a seilwaith gwyrdd, sy’n sbardun ar gyfer datblygu economaidd; bydd buddsoddiad bychan mewn seilwaith gwyrdd yn dod â thŵf economaidd, felly sut y bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y Bil?”

            Ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud ei fod wedi ceisio cael gwared ar bolisi o’r strwythur yn y Bil. Roedd yn cydnabod bod gan seilwaith gwyrdd rôl bwysig yn yr hyn ddylai ddigwydd, ond, ar hyn o bryd, nid yw seilwaith gwyrdd yn fater sy’n cael ei ystyried yn uniongyrchol yng nghyd-destun y Bil. Nododd y Gweinidog ei fod yn ymgynghori â Gweinidogion eraill yn rheolaidd a rhoddodd sicrwydd y bydd seilwaith gwyrdd yn cael ei ystyried o ddifrif yn y cyd-destun polisi priodol.

3.2       Amlygodd Jay Kynch – Y Gymdeithas Mannau Agored y ffaith bod aelodau’r gymdeithas yn gofidio bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cyflwyno rheoliadau a fyddai’n atal mannau gwyrdd mewn pentrefi y mae bygythiad i ddatblygu arnynt rhag cael eu cofrestru. Gwnaeth gais am dystiolaeth i gefnogi’r dull gweithredu/penderfyniad hwn a dywedodd ei bod yn siomedig bod y Llywodraeth yn dilyn y dull hwn sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth San Steffan.  

            Nid oedd y Gweinidog, gyda pharch, yn cytuno gyda barn y gymdeithas. Roedd yn credu ei bod yn bwysig bod cymunedau’n ymgysylltu’n gynnar gyda’r broses gynllunio, fel nad yw tir yn cael ei ddyrannu pan fo ganddo werth cymunedol neu statws cyfreithiol posibl fel tir cyffredin.

3.3       Gofynnodd Richard Kirlew – Materion Gwledig yr Eglwys yng Nghymru i’r Gweinidog a oedd yn cytuno y dylem geisio cadw pobl ifanc o fewn cymunedau gwledig a sut y gellid darparu rhagor o dai fforddiadwy.  

            Amlinellodd Carl Sargeant sut roedd yn credu y gellid ffurfio cymunedau bach yn well a nododd bod angen canfod synergeddau, ar wahân i adfywio. Mae gan Alluogwyr Tai Gwledig rôl bwysig i’w chwarae yn hyn o beth, ac roedd yn edrych hefyd ar ddulliau amgen o ddarparu tai fforddiadwy, yn yr un modd ag yn Nyffryn y Tafwys. Estynnodd y cynnig i gael trafodaethau pellach gyda’r Eglwys yng Nghymru ynghylch sut y gellid defnyddio ei dir o bosibl fel adnodd ar gyfer tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.  

3.4       Gofynnodd Edward Holdaway – Partneriaeth Tirwedd Cymru i’r Gweinidog beth oedd wedi newid ers 2007 a oedd wedi arwain at ailagor y cwestiwn ynghylch a fyddai Parciau Cenedlaethol yn parhau i fod yn Awdurdodau Cynllunio. Gofynnodd i’r Gweinidog a oedd yn credu y dylai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gadw eu swyddogaethau cynllunio.  

            Dywedodd y Gweinidog fod y cwestiwn hwn wedi cael ei ofyn iddo nifer o weithio. I grynhoi, ymatebodd drwy nodi ei fod yn credu bod gormod o Awdurdodau Cynllunio ac y dylid lleihau’r nifer bresennol o 25 i 10 ledled Cymru. Roedd ei resymeg yn seiliedig ar y sail bod gormod o amrywiaeth mewn perfformiad ar hyn o bryd a’i fod yn credu bod angen gwella hyn.

Yn ei farn ef, byddai lleihau nifer yr awdurdodau yn fuddiol yn hyn o beth. Roedd yn cydnabod bod swyddogaethau cynllunio’r Parciau Cenedlaethol yn hynod bwysig, ond ni allai weld pam na allai cynllunwyr allanol weithio fel cynllunwyr o fewn y Parciau Cenedlaethol mewn modd credadwy. Roedd yn credu mai’r prif faterion y mae angen mynd i’r afael â hwy o gofio bod llai o arian cyhoeddus yn y system yw’r cyfleoedd i leihau’r oedi wrth wneud penderfyniadau, a hynny drwy osgoi gwanhau’r gwasanaethau mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, roedd ganddo feddwl agored ynghylch beth fyddai tynged Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn y dyfodol o ran eu rôl cynllunio a byddai’n parhau i ystyried pwy allai ddarparu’r gwasanaeth gorau ac ym mha amgylchiadau yn y Parciau Cenedlaethol a thu hwnt iddynt.  

3.5       Diolchodd Dr Ruth Williams – Sefydliad Tirwedd Cymru i’r Gweinidog am rannu ei resymeg ac am ddangos sut y mae’n ceisio cysylltu amrywiol elfennau agenda’r Llywodraeth a’i gilydd. Gofynnodd am eglurhad am y rôlyr oedd yn credu y byddai datblygu cynaliadwy yn ei chwarae o ran cysylltu’r materion hyn a’i gilydd.

            Atebodd y Gweinidog drwy ddatgan ei fod yn credu mai rôl ei adran yw cyflawni’r agenda Datblygu Cynaliadwy a etifeddodd gan Jane Davidson. Gofynnodd a allai wneud hyn yn well a death i’r casgliad y gallai. Yna eglurodd y byddai deddfwriaeth yn ymwneud â Datblygu Cynaliadwy yn y Bil Cenedlaethau’r Dyfodol ac felly bod y llwybr ar gyfer newid wedi’i sefydlu eisoes.  Roedd yn disgwyl y byddai’r system Gynllunio yn creu sail strwythurol ar gyfer newid drwy’r Bil. Roedd yn credu y byddai Datblygu Strategol yn gynyddol yn dod yn offeryn mwy deddfwriaethol, ond roedd yn credu bod Llywodraeth Cymru ar y llwybr cywir. Sicrhaodd y gynulleidfa fod Jeff Cuthbert yn cysylltu ag ef yn gyson ynghylch sut y bydd y ddau Fil yn cydgysylltu.

3.6       Diolchodd y Cadeirydd i’r Gweinidog am roi o’i amser ac am gyflwyno ei syniadau i aelodau’r Grŵp.

 4.        Dr Roisin Willmott, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

4.1       Diolchodd Roisin i’r Grŵp am y cyfle i siarad ac eglurodd pwy yw’r Sefydliad a bod ganddo ddyletswydd i ymgyrchu dros system gynllunio er budd ehangach ac nid er budd ei aelodau’n unig. Cyflwynodd Dr Wilmott safbwynt y Sefydliad ar gynnwys y Bil Cynllunio a nododd yr elfennau hynny yr oedd yn eu cefnogi a’r rhai y credai a oedd yn llai boddhaol ac yr oedd wedi mynegi pryder yn eu cylch.

4.2       Roedd y Sefydliad yn cymeradwyo’r dull o weithio ar sail tystiolaeth a ddefnyddiwyd yn ystod y broses o ddrafftio’r ddogfen ac roedd yn cefnogi neges gyffredinol y cynigion a chefnogaeth y Gweinidog ohonynt.

4.3       Cyfeiriodd Roisin at gynigion Llywodraeth Cymru a’r goblygiadau gwledig. Eglurodd nad yw’r cynigion yn cynnwys polisi ac felly ni allant ystyried polisi gwledig na’r goblygiadau. Yn hytrach, mae angen edrych ar y strwythurau a’r fframweithiau sy’n cael eu cynnig a phrofi beth fydd eu goblygiadau mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Sefydliad yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithio ar sail tystiolaeth. Fodd bynnag, mae’n cwestiynu’r cynigion ar newid diwylliannol a phwysleisiodd ei bod yn hanfodol ei fod wedi’i gynnwys ym mhob cynnig.

4.4       Mae’r Sefydliad yn cefnogi sefydlu Corff i Wella a Chynghori ar Gynllunio. O safbwynt gwledig, bydd yn bwysig bod y corff yn ystyried materion gwledig yn ei waith – o ran y mater o dan sylw a hefyd o ran elfennau ymarferol y gwaith.  

4.5       Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Byddai’r Sefydliad yn awgrymu bod angen iddo gael rôl fwy arweiniol ar strategaethau cenedlaethol eraill, ee y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Dylai cynllunio’r dull o reoli Cyfoeth Naturiol nodi’n ofodol yr adnoddau amgylcheddol i’w cynnal a’u gwella a dylid integreiddio hyn gyda’r fframwaith datblygu cenedlaethol a’r cynlluniau datblygu strategol a lleol fel cyfyngiadau amrywiol a chyfleoedd. Mae angen defnyddio’r fframwaith datblygu cenedlaethol i gysylltu strategaethau a pholisïau cenedlaethol eraill sydd â goblygiadau gofodol. Mae trafnidiaeth a chysylltedd yn rhan hanfodol o hyn.

4.6       Mae’r Sefydliad yn gwbl gefnogol o’r egwyddor o Hierarchiaeth Rheoli Datblygu.

4.7       O ran cydweithio, gan ddibynnu ar ganlyniadau Adroddiad Williams, bydd hyn o bosibl yn adolygu’r angen tymor hwy am yr elfen hon. Fodd bynnag, byddai’r Sefydliad yn cefnogi cydweithio ar wasanaethau arbenigol gan fod hyn yn gweithio’n dda yng ngogledd Cymru ar wastraff a mwynau, er enghraifft.

4.8       Nododd Roisin, yn sgîl y cwestiynau blaenorol am y Parciau Cenedlaethol, fod y Sefydliad wedi mynegi ei farn yn ei ymateb y byddai’n gam am yn ôl i dynnu’r pwerau cynllunio oddi ar Awdurdodau’r Parciau.  Roedd yn credu nad oedd tystiolaeth i ddangos nad oeddent yn gwneud y rôl hwn yn foddhaol a nododd fod yr holl astudiaethau diweddar ar befformiad cynllunio’r Parciau Cenedlaethol yn cadarnhau hynny. Cytunodd Roisin bod angen cydweithio gyda’r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau unedol. Fodd bynnag, roedd y Sefydliad yn cwestiynu a oedd tystiolaeth a fyddai’n cyfiawnhau tynnu cyfrifoldebau cynllunio oddi ar Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol. Mae’r Sefydliad yn credu bod ganddo swyddogaeth bwysig a rôl genedlaethol.

4.9       Cynlluniau Datblygu Strategol. Mae’r Sefydliad yn credu bod angen y rhain ond bod ganddynt ffocws trefol yn bennaf. Mae’r Sefydliad yn credu y dylai cynlluniau datblygu lleol ddilyn yr un model, hyd yn oed os yw’n ardal sydd wedi’i chynnwys mewn cynllun datblygu strategol. Byddai hyn yn broblem benodol i rannau gwledig awdurdodau sydd wedi’u cynnwys mewn cynllun o’r fath - sef lle mae’r ardal wledig wedi’i hepgor.

4.10     Gallai cynlluniau lleoedd gael effaith bositif ar setliadau gwledig.

4.11     Roedd y Sefydliad wedi comisiynu astudiaeth ar Bwyllgorau Cynllunio ar ran y Gweinidog ac yn ei gymeradwyo. Mae Pwyllgorau’n darparu rhan hanfodol o’r system gynllunio ac mae gan Gymru gyfle unigryw i arwain yn y DU ar gefnogi pwyllgorau fel y gallant gyflawni ar gyfer cymunedau ac amcanion a gweledigaeth yr awdurdod ehangach.

4.12     I gloi, canmolodd Roisin y nifer anhygoel o gynigion cadarnhaol yn y ddogfen ymgynghori, a dywedodd mai’r manylion oedd yn bwysig o ran sut y byddai hyn yn cael ei ddatblygu. O’i ddefnyddio yn y ffordd gywir, gall cynllunio arwain at ganlyniadau da ac ni ddylem ei anwybyddu.

5.         Cwestiynau i Roisin Willmott, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

5.1       Gofynnodd Llyr Huws Gruffydd AC am farn y Sefydliad am y Cynlluniau Datblygu Gwledig a sut i sicrhau cydbwysedd rhwng atebolrwydd democrataidd a phrofiad.  

5.2       Cafwyd trafodaeth bellach ar lefel y gwaith o graffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a sut i gynnwys y cyhoedd, a’r angen i awdurdodau lleol werthfawrogi’r system gynllunio ac i gynlluniau gael eu prosesu mewn modd priodol. Cefnogwyd yr angen i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol gadw eu swyddogaethau cynllunio gan nifer o’r rheini a oedd yn bresennol.

5.3       Diolchodd y Cadeirydd i Dr Wilmott am ei chyfraniad gwybodus a’i phersbectif ystyriol ar gynnwys y Bil arfaethedig.

8.         Sylwadau clo y Cadeirydd

 

8.1       Daeth Llyr Huws Gruffydd AC â’r cyfarfod i ben drwy ddiolch i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau ac roedd yn gobeithio y byddai cynifer â phosibl ohonynt yn gallu dod i’r cyfarfod nesaf yn nes ymlaen yn y gwanwyn.  

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 13.40